SL(6)401 - Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw cyfandaliadau a delir i athrawon ysgol yng Nghymru o dan y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg yn cael eu trin fel tâl at ddiben adran 122(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac felly nad ydynt yn ddarostyngedig i’r fframwaith tâl statudol ac nad ydynt yn bensiynadwy. 

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Gorchymyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Ni chynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â gwneud y Gorchymyn gan mai mater gweithdrefnol ydyw, i sicrhau bod y polisi’n cael yr effaith gyfreithiol a fwriedir, i ddarparu eglurder i weinyddwyr y gyflogres a gweinyddwyr cynlluniau pensiwn, ac i liniaru’r risg y bydd angen cyfraniadau pensiwn heb eu hariannu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Tachwedd 2023